Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 12 Mai 2015

 

 

 

Amser:

09.01 - 10.59

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3195

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Jocelyn Davies AC

William Graham AC

Mike Hedges AC

Sandy Mewies AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Sandra Alexander, Cyngor Bro Morgannwg

Jennie Bibbings, Shelter Cymru

Sioned Hughes, Cartrefi Cymunedol Cymru

Lindsey Kearton, Cyngor ar Bopeth Cymru

Paul Langley, Cartrefi Cymunedol Cymru

Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru

Helen Northmore, Chartered Institute of Housing

John Puzey, Shelter Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Alan Morris (Swyddfa Archwilio Cymru)

Nick Selwyn (Swyddfa Archwilio Cymru)

Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1   Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.3 Datganodd Sandy Mewies fuddiant fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad (eitem 2.4) a dywedodd Julie Morgan fod ei merch yn gweithio i Shelter Cymru (Eitem 4).

 

</AI2>

<AI3>

2   Papurau i’w nodi

2.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ymateb i Gomisiwn y Cynulliad (Eitem 2.4) yn gofyn am eglurhad pellach ar y tanwariant targed o 1% o'r gyllideb weithredol.

 

</AI3>

<AI4>

2.1 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon:  Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynglŷn â threfniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon (30 Ebrill 2015)

 

</AI4>

<AI5>

2.2 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (29 Ebrill 2015)

 

</AI5>

<AI6>

2.3 Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Llythyr gan William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes (1 Mai 2015)

 

</AI6>

<AI7>

2.4 Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd (7 Mai 2015)

 

</AI7>

<AI8>

3   Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 1

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio, a Paul Langley, Uwch-gynghorydd yn Cartrefi Cymunedol Cymru; Helen Northmore, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (CIHC) a Sandra Alexander, Rheolwr Incwm Tai, Cyngor Bro Morgannwg ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

 

3.2 Cytunodd Sioned Hughes i anfon rhagor o wybodaeth am:

·         yr ymagwedd wahanol a gymerwyd yn Lloegr tuag at apeliadau

·         nifer y cartrefi yn y sector rhentu sydd wedi eu hisosod yng Nghymru

·         nifer y bobl ag anableddau sy'n cael eu heffeithio gan y cymhorthdal ​​ystafell sbâr

·         tystiolaeth o'r ffordd y mae cymdeithasau tai yn parhau i fod heb ddiweddaru eu polisïau trosglwyddo i sicrhau nad yw ôl-ddyledion yn ymwneud â diwygio lles yn rhwystr i symud i gartrefi llai o faint.

 

</AI8>

<AI9>

4   Diwygiad Lles: Sesiwn dystiolaeth 2

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Puzey, Cyfarwyddwr a

Jennie Bibbings, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru; a

Lindsey Kearton, Swyddog Polisi ac Elle McNeil, Swyddog Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru ar ei ymchwiliad i ddiwygio lles.

 

</AI9>

<AI10>

5   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI10>

<AI11>

6   Diwygiad Lles: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI11>

<AI12>

7   Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

7.1 Tynnodd Alan Morris sylw at y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Cydnerthedd Ariannol Cynghorau yng Nghymru.

 

7.2 Nododd Aelodau y byddai llythyr drafft gan y Cadeirydd at June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru yn cael ei ddosbarthu er mwyn cael eu sylwadau a chytundeb yn nes ymlaen heddiw.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>